1. Hafan
  2. Darganfod
  3. Arddangosfeydd a fu

Arddangosfeydd a fu


Gan ei fod yno 

20 Gorffennaf - 12 Hydref 2019

 

Bydd yr arddangosfa ‘Gan ei fod yno’ yn edrych ar anturio dynol: yr awydd i fynd y tu hwnt i’r gorwel, dringo’r mynydd, mentro ar draws y cefnfor, hedfan ymhlith y sêr, dargafnod rhywbeth dim ond oherwydd ei fod yno (neu oherwydd fod yna sôn a si ei fod yno). 

Dewch i ddarganfod yr offer a’r peiriannau sydd wedi gwneud hwylio ac anturio’n bosibl a dadorchuddio’r llen ar hanesion y bobl ddewr hynny a gymerodd risgiau eofn wrth iddynt fynd ar drywydd darganfyddiadau newydd. 


Defaid

6 Ebrill - 29 Mehefin 2019

Rhwng 6 April a 29 Mehefin bydd Amgueddfa Ceredigion yn arddangos casgliad o weithiau celf a fydd ar fenthyg iddi gan Oriel Tate am y tro cyntaf. Bydd y darluniau, gan gynnwys tri gan Henry Moore, yn rhan o arddangosfa Defaid sydd ar fin cael ei ddangos yn yr Amgueddfa ac a fydd yn edrych ar hanes, treftadaeth a diwylliant y cymunedau sy’n ffermio defaid a’u perthynas ehangach â thir a thirwedd Cymru.

Mae’r holl weithiau celf o Tate yn cynnwys portreadau o ddefaid sydd, ar y cyd â darluniau Henry Moore, yn cynnwys: llun gan Joseph Beuys, sgrin-brintiad ar bapur - ‘Sheep B’ - gan yr artist o Israel Menashe Kadishman. Bydd ymddangosiad y gwaith hyn yn yr amgueddfa yn uchafbwynt go iawn i’r cyhoedd ac mae’n cynnig cyfle cyffrous i weld artistiaid o Gymru yn arddangos eu gwaith wrth ochr gwaith celf o bwys rhyngwladol ynghyd â chasgliad o waith celf o Geredigion.

I gyflawni’r benthyciadau hyn, darparwyd cyllid gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund. Crëwyd Rhaglen Fenthyca Weston gan Sefydliad Garfield Weston ac ‘Art Fund’ a hi yw’r cynllun cyllido cyntaf ledled y DU i alluogi orielau llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyg gwaith celf ac arteffactau oddi wrth gasgliadau cenedlaethol.

Rhoddwyd rhagor o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a ‘The Ferryman Project:  Sharing Works of Art’ a gefnogir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad John Ellerman ac ‘Art Fund’.

Bydd symposiwm amlddisgyblaethol, ‘Tirweddau’r Dyfodol’ ar 9 -10 Mai, yn cyd-fynd â’r arddangosfa i ymhelaethu ar y trafodaethau a’r sgyrsiau a gaiff eu ysbrydoli gan weithiau celf yr arddangosfa. 

Ymhlith yr artistiaid fydd yn cyfrannu mae Miranda Whall, sy’n gweithio ar gyfres o ddarnau celf yn ymwneud â thirwedd; mae’r un cyntaf, ‘Crossed Paths’, yn edrych ar hanes ucheldir Cymru o safbwynt defaid. Bydd gwaith newydd ar ddangos mewn amrywiol o gyfryngau gan gynnwys ffilm, cerfluniau a gosodiadau a hynny gan yr artistiaid ‘Short and Forward’, Christine Mills, Morag Colqhuon, Carwyn Evans a’r ffotograffydd Marian Delyth.

Ar y cyd â’r arddangosfa, bydd yr artist/gwneuthurwraig ffilm Ffion Jones yn ymwneud â ffermwyr defaid i wneud darn o waith newydd mewn cydweithrediad â chymunedau amaethyddol, gan ddefnyddio casgliad amaethyddol Amgueddfa Ceredigion i’w hysgogi. Bydd y gwaith terfynol yn cael ei ddangos fel rhan o’r arddangosfa.

Dywedodd Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Bydd y cymorth ariannol i Defaid gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag ‘Art Fund’ ac eraill yn gadael gwaddol a fydd yn para y tu hwnt i’r arddangosfa ei hun. Bydd y gwelliannau angenrheidiol a’r rhaglenni sy’n cyd-fynd yn galluogi’r amgueddfa i fenthyg arteffactau a thrysorau pwysig eraill i’w harddangos yn y dyfodol – rydym eisoes yn datblygu cynlluniau i fenthyg eitemau o’r Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru yn 2020, gan sicrhau bod diwylliant a threftadaeth ar gael yn fwy hygyrch i bobl Ceredigion.”

Dywedodd Sophia Mason, Ymddiriedolwraig Sefydliad Garfield Weston, “Rydym wrth ein boddau yn cychwyn ar ail flwyddyn Rhaglen Fenthyca Weston gydag arddangosfa yng Nghymru. Mae’n anhygoel gweld cymaint mae’r rhaglen hon yn grymuso amgueddfeydd fel un Ceredigion yn ogystal â sicrhau bod modd i’n trysorau cenedlaethol gael eu gweld gan gynulleidfaoedd yng nghyd-destun eu hardal a’u treftadaeth nhw.”

Dywedodd Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr Art Fund, “Un o amcanion Rhaglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund yw annog amgueddfeydd i rannu eu casgliadau â’i gilydd a dod â budd a chyfleoedd newydd i’w hymwelwyr. Rydym yn falch o weithio â Sefydliad Garfield Weston i wireddu’r rhaglen genedlaethol bwysig hon.”


Cymdeithas Gelf Ceredigion

Wedi’i ysbrydoli gan Hanes – Archwilio Trysorau Cynhanesyddol, Celtaidd a Rhufeinig Ceredigion

19 Ionawr – 23 Mawrth

Mae sir Ceredigion fel pe bai’n cofleidio canol Bae Ceredigion, gan ymestyn o Aberdyfi yn y gogledd i Aberteifi yn y de, ac i mewn i’r tir ceir mynyddoedd y Cambria, sy’n ymledu dros ryw 696 milltir sgwâr neu oddeutu 1,783 cilometr sgwâr. Bu rhywrai yn byw yma ers cyn cof.
Wrth i ni deithio drwy’r ardal heddiw, yr arwyddion amlycaf o bresenoldeb ein cyndeidiau yw’r bryngeiri niferus a’r tiroedd amgaeëdig sy’n dyddio yn ôl i oes yr haearn, gan roi ffurf arbennig i’r bryniau Yn benodol, dylid nodi bryngaer trawiadol Aberystwyth ei hun, Pen Dinas, sy’n meddiannu’r gorwel ac yn tremio dros y dref. Yn fwy diweddar, drwy gyfrwng y Fila Rufeinig a ddarganfuwyd yn Abermagwr, cafwyd gwybodaeth werthfawr am oresgyniad y Rhufeiniad yn yr ardal.
Yn ogystal â thystiolaeth o bresenoldeb dyn yn yr ardal, ceir trysorau eraill megis ffosiliau creaduriaid môr sydd wedi hen farw ynghyd â’r goedwig gyfareddol o dan y môr a’i donnau yn y Borth.
Mae ein haelodau wedi ceisio dod â rhai o’r trysorau hyn yn fyw, a’n gobaith yw y byddwch yn mwynhau’r cipolwg hwn ar y gorffennol, wrth i chi edrych ar ddisg haul gain Tynddol a llwyau defodol hynod Penbryn a ddaeth o Gastell Nadolig neu realiti ffotograffig y goedwig o dan y môr yn y Borth neu’r brethyn haniaethol sy’n darlunio’r Rhufeiniad yn chwilio am aur neu’r darlun dychmygol o ffordd o fyw yn y bryngeiri, yn ogystal ag wrth edrych ar arteffactau o gasgliadau’r Amgueddfa ei hun.


Margaret Jones: Dathlu'r 100

27 Hydref 2018 tan 5 Ionawr 2019

Mae Amgueddfa Ceredigion yn dathlu penblwydd y darlunydd arobryn o Geredigion, Margaret Jones, yn 100 mlwydd oed gydag arddangosfa unigryw.

Mae’r arddangosfa Margaret Jones: Dathlu’r 100, sy’n amlygu gyrfa’r darlunydd arobryn Margaret Jones ar noswyl ei phen-blwydd yn 100 oed, yn cynnwys brasluniau cynnar a darluniau nas gwelwyd o’r blaen sy’n eiddo i’r teulu Jones. Mae’r arddangosfa unigryw hon yn agor y drws i gelf yr artist enwog, gan wahodd ymwelwyr i ddarganfod syniadau, brasluniau a gweithrediad mewnol ei darluniau a’i gwaith celf enwog.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys printiau gwreiddiol nas gwelwyd o’r blaen o’r gyfres ‘Arthur’ a phrintiau prin o waith nas cyhoeddwyd, gan gynnwys ‘Seven days of the week’ sy’n bwrw golwg ar sut mae enwau dyddiau’r wythnos yn tarddu o sagâu’r brenhinoedd a’r breninesau Nordig. Bydd albymau lluniau archif hefyd yn cael eu harddangos ynghyd â llyfrau nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi, gan roi cipolwg nas gwelwyd o’r blaen ar fywyd preifat yr artist.

Dywedodd Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Pleser oedd cael y cyfle i chwilio drwy bortffolio Margaret Jones, darganfod mwy am ei phroses o greu ei darluniau a dysgu mwy am ei gwybodaeth fanwl am y traddodiad storïol y mae hi wedi darlunio ar ei gyfer.”

Ers dod yn arlunydd proffesiynol yn 60 mlwydd oed, daeth Margaret yn adnabyddus fel un o’r darlunwyr blaenllaw yn y traddodiad Celtaidd a llên gwerin eraill. Fe’i ganwyd yn Lloegr, a magodd ei theulu ifanc yn India gyda’i gŵr cyn iddo gael ei benodi’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae ei phortread o’r Mabinogi wedi diffinio’r modd y mae cenhedlaeth o blant Cymru yn dychmygu llên gwerin hynafol y genedl. 

Bydd yr Athro Sioned Davies, cyn Bennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, y mae ei chyfraniad parhaus at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn hynod ddylanwadol, yn agor yr arddangosfa ar 27 Hydref am 2pm. Mae croeso i ymwelwyr yr amgueddfa ddod i’r agoriad swyddogol.