1. Hafan
  2. Darganfod
  3. Caffi

CAFFI


Yr ydym yn falch iawn o agor drysau ein caffi newydd, Tŷ Coffi'r Coliseum, yr haf hwn.

Mae'n gweini bwyd blasus lleol mewn awyrgylch cyfeillgar teuluol.

Mae gennym ddigonedd o gadeiriau uchel a lle ar gyfer plant, gan gynnwys bwydlen dda ar gyfer y plant a dewisiadau iach.

Rydym yn cynnig cinio ysgafn, byrbrydau a choffi gwych, te a chacennau cartref. Bwyd cartref yw popeth o gynnyrch lleol.

 

Diwrnodau masnachu newydd

O 30 Medi ymlaen, ni fydd y caffi yn agor ar ddydd Llun.

Bydd y caffi ar agor ar y dyddiau/amseroedd canlynol –

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am tan 5pm.

Gweinir bwyd tan 3pm.