AMGUEDDFA CEREDIGION MUSEUM
Amgueddfa Ceredigion: Ennyn Chwilfrydedd y Chwilfrydig
Croeso i Amgueddfa Ceredigion a'r hen theatr Edwardaidd hyfryd sy'n gartref iddi. Rydym yng nghanol Aberystwyth nid nepell o'r môr.
Mae ein hamgueddfeydd ar gau oherwydd argyfwng Covid-19. A ninnau’n ofod cyhoeddus, byddwn ar gau tan i’r cyngor newid. Rydym wedi canslo pob rhaglen gyhoeddus a phob digwyddiad cyhoeddus a phreifat. Lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni, byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn am eich dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus. Cymrwch ofal, a chadwch mewn cysylltiad!
Rydym ar agor o ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn 10-5pm. Mae mynediad am ddim.
Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliadau parhaol a rhai dros dro sy'n archwilio treftadaeth, diwylliant a chelfyddyd Ceredigion. Mae'r Amgueddfa'n agored i bawb: yn hen ac ifanc, o bob lliw a llun.
Nid yn unig y mae'r Amgueddfa ei hun yn ffynnu mae hefyd nosweithiau ffilmiau, perfformiadau, gweithdai, caffi prysur sy'n gwerthu cynnyrch lleol blasus a siop yr Amgueddfa.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a'r arddangosfeydd tanysgrifiwch i'n rhestr bostio ni.
Edrychwn ymlaen at roi croeso i chi ac ennyn chwilfrydedd y chwilfrydig.